Skip navigation links
Adnoddau

Yn yr adran hon fe welwch amrywiaeth o syniadau ac adnoddau dysgu, yn seiliedig ar eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell – ac hefyd ar y wefan addysg ei hunan.

Mae’r holl ddelweddau sydd yn yr adnoddau wedi eu digido yn barod ar wefan y Llyfrgell. Gallech felly daflunio’r delweddau – neu ddelweddau tebyg o’ch dewis chi – ar fwrdd gwyn, trwy gyswllt rhyngrwyd, os am gyflwyno i ddosbarth neu grŵp.

Taflenni gwaith

Gallwch lawrlwytho’r tudalennau cymorth i’ch helpu chi sut i
ddod o hyd i’r deunyddiau yma.

Cymorth dod o hyd i luniau:

pdfdogfen pdf

worddogfen word

 

Byddwn yn atodi at yr adnoddau hyn yn gyson, ac fe fyddem yn croesawu unrhyw syniadau gan addysgwyr neu ddysgwyr ynglyn ag adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol.

Y mae ein hadnoddau yn gyffredinol wedi eu hanelu tuag at CA2/3, ond bod modd eu haddasu gan athrawon yn ôl gofynion oedran/gallu eu grwpiau dysgu.

 

  • TRYSORAU
    AR Y WE

    Storfa o ddeunydd diddorol i’w ddefnyddio ar gyfer ymchwilio a darganfod. Chwiliwch yn ôl cyfnod, ardal neu thema. CA2/3/4/5

  • TASG CHWILOTA

    Cwestiynau a thasgau i roi nod i’r gwaith o ymchwilio drwy’r wefan a dod i wybod mwy am y Llyfrgell ei hun. CA2/3

  • LLYFRYN GWAITH

    Llyfryn bychan lliwgar, dwyieithog i hebrwng ymweliad â’r Llyfrgell. CA2/3

     

  • CYMRU A'R AIL RYFEL BYD

    Atgynhyrchiadau o ddeunyddiau gwreiddiol a gwybodaeth am Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. CA2 a CA4/5

     

--------------------------------------------------------------------------------------

LogoEnglishCymorthempty
Adnoddau

Trysorau ar y we bwled
Tasg Chwilota bwled
Llyfryn Gwaith bwled

Cymru a'r Ail Ryfel Byd bwled
Gwaith Iaith Portreadau bwled
Gwaith Iaith Tirluniau bwled
Deall Crefft y Cartwnydd bwled