Os oes angen cysylltu â'r Llyfrgell arnoch chi, mae'r manylion yma.
Os ydych chi'n athro neu athrawes, neu yng ngofal grŵp, ac yn dymuno gwybod mwy am sut i ddod i'r Llyfrgell Genedlaethol, mae'r adran trefnu taith yn esbonio sut i wneud hynny.
Gallwch argraffu copi o'r canllawiau ymweld a fydd yn egluro popeth i chi am sut i gael y gorau o'ch ymweliad.
Mae modd dod yma ar sawl math o ymweliad gwahanol ac mae sesiynau dysgu yn egluro i chi beth gallwn ei gynnig i wahanol grwpiau, a phryd.
Mae rhaglen gyson o arddangosfeydd mewn amrywiol fannau drwy'r Llyfrgell bob amser. Gallant gael eu defnyddio fel ffocws i waith llythrennedd neu gelf, naill ai yn yr orielau eu hunain neu yn yr Ystafelloedd Addysg.

Mae'r gwasanaeth addysg yn barod i gydlynu sesiynau gwaith i hebrwng arddangosfeydd, ond mae croeso i athrawon fod yn gyfrifol am eu gweithgaredd eu hunain gyda disgyblion yn yr oriel. Rhaid hysbysu'r gwasanaeth addysg ymlaen llaw os bwriadwch ddod â grŵp i wneud hynny.
Mae dwy ystafell addysg yn cynnig gofod addas i weithio - un yn yr ystafell ddysgu a'r llall yn yr ystafell ymarferol ar gyfer gwaith llaw/brechdanau.
--------------------------------------------------------------------------------------
Croeso | Y Llyfrgell ei hun | Cysylltu | Ymchwilio | Adnoddau | Beth sy' 'mlaen? | Sylwadau | Plant | Cymorth


