Ry'n ni'n cynnig amrywiaeth o sesiynau dysgu i ddisgyblion a phobl ifanc, neu hyfforddiant i athrawon.
Gallwch drafod eich anghenion pan fyddwch yn cysylltu â'r Llyfrgell. Gallwn gynnig rhai cyrsiau ar ddyddiadau penodol yn unig. Y mae eraill yn rai y gallwch ofyn amdanyn nhw unrhywbryd. Ond yn gyffredinol, anelwn at fod yn hyblyg, gan deilwra ymweliad yn ôl y galw.

Croesawn ymholiadau gan grwpiau o deuluoedd neu addysgwyr cartref fyddai'n hoffi manteisio ar y cyfle i ddod yma fel grŵp.
Y mae croeso hefyd i grwpiau sydd yn cynnwys unigolion ag anghenion dysgu arbennig, lle gwnawn gyd-weithio gyda chi i sicrhau ymweliad da.
Mae gennym lyfryn gwaith lliwgar i hebrwng ymweliadau. Mae’n addas ar gyfer plant rhwng 8- 12 oed, ar gyfer ymweliadau ffurfiol neu anffurfiol o gwmpas ardaloedd cyhoeddus y Llyfrgell. Mae’n cynnwys tasgau arsylwi, mynegi barn, celf a llythrennedd, ynghyd â thasgau i’w gwneud nôl yn y dosbarth/cartref. Os am gopi sampl, cysylltwch â ni ar dysgle@llgc.org.uk
Y mae’r Ystafelloedd Addysg yn cynnwys dwy ystafell ddymunol a hyblyg eu pwrpas, lle gall grwpiau ymgynnull a threulio cyfran o’u hymweliad. Y mae gofod pwrpasol i adael cotiau a bagiau, bwyta brechdanau, gwneud gwaith llaw a mwynhau gwahanol fathau o sesiynau dysgu.

--------------------------------------------------------------------------------------
Croeso | Y Llyfrgell ei hun | Cysylltu | Ymchwilio | Adnoddau | Beth sy' 'mlaen? | Sylwadau | Plant | Cymorth
