Skip navigation links
Cysylltu ac Ymweld

Sesiynau ar Gyfer Athrawon

Gall y gwasanaeth addysg ddarparu dyddiau hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon, naill ai fel athrawon pwnc, neu fel staff ysgol gyfan ( hyd at 15 o aelodau).

THEMA: Cyflwyniad i'r Llyfrgell Genedlaethol a'i deunyddiau, gan edrych ar themau a'r cyfraniad i'r Cwricwlwm Cymreig. Cwrs diwrnod craidd sy'n rhoi argraff gyffredinol dda i athrawon o'r Llyfrgell a'r posibiliadau dysgu sy'n deillio o ymweliad neu ddefnydd o'r wefan.

Mae Gyrfaoedd Gorllewin Cymru a Gyrfaoedd Powys wedi cydlynu dyddiau hyfforddiant ar gyfer athrawon yn y siroedd hynny yn ystod 2003/4. Cysylltwch â'r cwmni yn eich hardal chi os hoffech ymuno â grŵp yn ystod 2005.


Cynhaliwyd dyddiau ar y themau canlynol yn 2003/2004:

Y Llyfrgell Genedlaethol a'r Cwricwlwm Cymreig
Cyflwyniad i'r Llyfrgell Genedlaethol
Y Byd Celtaidd
Barddoni trwy Gelf
Llythrennedd trwy Gelf

Cynigir y sesiynau yn Gymraeg neu Saesneg

 

--------------------------------------------------------------------------------------

 

LogoEnglishCymorthempty
Ymweld

Cysylltu bwled
Trefnu Ymweliad Grŵp bwled
Sesiynau Dysgu bwled