Skip navigation links
Cysylltu ac Ymweld

Sesiynau ar Gyfer Grwpiau

 

TAITH TRWY AMSER
- taith trwy’r Llyfrgell ei hun, sydd bron yn gant oed, i grwpiau o bob oed.

Y mae taith o gwmpas y Llyfrgell Genedlaethol yn brofiad arbennig i bob ymwelydd. Dyma gyfle i fwrw golwg nôl dros hanes y sefydlu, yr adeiladu a’r tyfu dros bron i ganrif. Cyfle i ystyried y newidiadau sy’n cael eu hadlewyrchu yn y bensaerniaeth wrth symud trwy wahanol gyfnodau. Cipolwg ar arddangosfeydd ynghyd â chyfle i werthfawrogi maint ac amrywiaeth y casgliadau, a’r gwaith o’u cadw’n ofalus.
Mae cynnwys teithiau’n amrywio i ymateb i ofynion oedran y grŵp. Gellir bod yn hyblyg ynglyn â'u hyd. Gallwn dywys grwpiau o 16 ar y tro.

Hyd: Awr
CA2/CA3/CA4/CA5: Cymraeg/Saesneg/ Hanes/ Celf

 

HEN A NEWYDD
- gweithgaredd atodol i’r daith ar gyfer plant cynradd.

Gweithgaredd hwyliog yn yr Ystafell Addysg, ar ôl crwydro’r Llyfrgell, i helpu gwneud y cysylltiad rhwng gwahanol gyfnodau amser ac i ategu’r neges bod y Llyfrgell yn cynnwys deunydd ein cyfnod ni, yn ogystal â’n hen hanes.

Hyd: 30 munud
CA2/CA3: Hanes/ Cyffredinol

 

GADAEL DY FARC -
dysgu am ddatblygiad ysgrifennu a chyfarthrebu ar bapur

Cyflwyniad i hanes cyfathrebu ac ysgrifennu, o ddyddiau cynnar papyrus, trwy gyfnod felwm a chroen hyd ddyfodiad argraffu. Cyfle i gyffwrdd â deunyddiau, ac ystyried dilyniant y gwahanol ddeunyddiau trwy amser. Elfen o waith creadigol ym mhob sesiwn

Hyd: Awr a hanner
CA2/CA3: Hanes/ Cymraeg/ Saesneg/ Celf

 

YMDEIMLAD O LE - EDRYCH AR DIRLUNIAU

Cyfle i astudio rhai o dirluniau godidog casgliad y Llyfrgell, ynghyd ag amrywiaeth o destunau ysgrifenedig - hen a chyfoes - fel sbardun i waith ar ddisgrifio. Ar gyfer Cymraeg a Saesneg, byddwn yn targedu sgiliau ysgrifennu creadigol yn ogystal â gwerthfawrogiad llafar a mynegi barn. Gellir targedu gwaith artistiaid o Gymru os dymunir, ac mae lle ar gyfer gwneud gwaith celf ymarferol.

Hyd: Dwy awr
CA2/3/4: Cymraeg/ Saesneg/Celf

 

DISGRIFIO POBL

Cyfle i ddefnyddio enghreifftiau o gasgliad ffotograffig John Thomas ynghyd â phortreadau o'r casgliad celf i greu portreadau mewn gair neu lun, gan fireinio sgiliau disgrifio a gwerthfawrogi. Cyfoethogir ymwybyddiaeth plant o wisg; tlodi; statws cymdeithasol; a chrefft arlunydd, ynghyd â thanio eu dychymyg i feddwl am y gwrthrych a'i hanes mewn ffordd greadigol.

Hyd: Awr a hanner
CA2/CA3: Hanes/ Cymraeg/ Saesneg/ Celf

 

LLYFRAU SANCTAIDD

Cyflwyniad i amrywiaeth o lyfrau sanctaidd o wahanol gyfnodau i gyfleu dilyniant hanesyddol, o'r Koran i Feibl William Morgan i Feibl Graffig cyfoes.

Hyd: Awr a hanner
CA2: Addysg Grefyddol

 

TRYWERYN

Trwy amrywiaeth o ddeunydd o'r casgliadau mewn aml gyfrwng, daw stori boddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn yn fyw i'r disgyblion. Ffordd uniongyrchol a diddorol o gyfleu un o brif ddigwyddiadau gwleidyddol a hanesyddol Cymru i ddisgyblion heddiw, gan arwain at gwestiynau sy' dal yn berthnasol - i ba raddau mae anghenion am ddŵr neu ynni yn cyfiawnhau diddymu cymunedau? Pwy sy'n berchen ar dir cefn gwlad Cymru? Sut brofiad yw diwreiddio a symud tŷ?

Hyd: Awr a hanner
CA2/3/4: Hanes/Cymraeg/Saesneg.

 

--------------------------------------------------------------------------------------

 

LogoEnglishCymorthempty
Ymweld

Cysylltu bwled
Trefnu Ymweliad Grŵp bwled
Sesiynau Dysgu bwled