Skip navigation links
Chwilio'r wefan am ...
yn yr adran yma ...

Trefnu Ymweliad Grwp

bwled Ffurflen Logi
bwled Canllawiau

Cysylltu ac Ymweld

Canllawiau ar gyfer ymweliad addysgol

Gallwch lawrlwytho copi o'r canllawiau hyn fel dogfen Word.

Paratowyd y canllawiau yma ar gyfer grwpiau addysg er mwyn sicrhau fod awyrgylch braf a threfnus tra byddwch yn y Llyfrgell, a bod diogelwch pawb wedi ei sicrhau hyd y bod modd.

Gobeithio y cewch flas ar ddod â'ch disgyblion i Aberystwyth. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yma.

Trefniadau ymlaen llaw

  • Os ydych yn trefnu ymweliad i fwy nag wyth o ddisgyblion, gofynnwn yn garedig i chi wneud cais trwy lythyr neu alwad ffôn o leiaf bythefnos ymlaen llaw.
  • Wedi derbyn eich cais, byddwn yn cadarnhau'r dyddiad ac amser a threfniadau gyda chi trwy lythyr. Os oes unrhyw gamddealltwriaeth yn y llythyr, a wnewch chi gysylltu'n syth â Swyddog Addysg ar 01970 632528 / 632913 i roi gwybod.
  • Byddem yn gwerthfawrogi cael gwybod cyn gynted ag sy'n bosibl os na allwch ddod wedi'r cwbwl, neu os oes newid i nifer y grŵp.

Niferoedd

  • Gallwch ddod â grwpiau hyd at wyth o ddisgyblion heb fod angen rhybudd.
  • Yn anffodus, oherwydd cyfyngder lle addas i nifer fawr o ddisgyblion ar yr un pryd, nid yw'n bosibl i ni allu croesawu grwpiau o fwy na tua 35 ar yr un tro. Er fod hyn efallai'n cyfyngu arnoch, mae'n sicrhau ymweliad o ansawdd gwell a mwy dymunol.

Amser

  • Gofynnwn yn garedig i chi lynu, cyhyd ag sy'n bosibl, at yr amserau a drefnwyd. Y mae'n bosibl bod gan eich tywysydd apwyntiadau eraill fydd yn dilyn eich ymweliad chi. Ceisiwch beidio cyrraedd mwy na phum munud cyn yr amser a nodwyd.
  • Awgrymwn fod ymweliad o awr a chwarter yn ddigonol ar gyfer cyflwyniad cyffredinol i'r Llyfrgell Genedlaethol. Gellir ymestyn hyn i awr a hanner/ dwy awr os dymunwch i'ch grŵp gael amser yn y siop neu i fwyta brechdanau.
  • Os ydych wedi dod i'r Llyfrgell ar gyfer sesiynau gwaith thematig neu bynciol, yna fe fydd hyd eich ymweliad yn wahanol ac fe drafodir hyn gyda chi pan fyddwch yn cysylltu â ni. Gallwch gael manylion am sesiynau fel hyn trwy gysylltu â'r Swyddogion Addysg.
  • Byddem yn eich cynghori bod treulio bore neu bnawn cyfan yn y Llyfrgell ar ymweliad cyffredinol gyda chriw mawr o blant ifanc yn ormod o bwdin! Gwell torri ymweliad yn ei flas.

Cyrraedd

  • Mae maes parcio ger ochor y Llyfrgell. Gall bysiau adael plant ger y brif fynedfa, neu eu gollwng ger cefn yr adeilad a cherdded i flaen y Llyfrgell.
  • Wedi cyrraedd, peidiwch dod i fyny'r grisiau blaen i'r drysau troi. Yn hytrach, defnyddiwch y brif fynedfa newydd (sydd ar lefel is, ar ochor dde y grisiau blaen) lle mae'r arwydd 'YMWELWYR'.
  • Gofynnwn i athro neu athrawes ddod mewn cyn y plant i roi gwybod i'r dderbynfa eich bod wedi cyrraedd.

Bwyta

  • Nid oes hawl gan ddisgyblion i ddod â bwyd neu ddiod i mewn i'r Llyfrgell, ar wahan i achlysuron pan fyddant yn dod â'u brechdanau i fwyta yn yr Ystafell Gyfleusterau.
  • Gallwch ofyn am gael defnydd o'r Ystafell Gyfleusterau (sydd drws nesaf i'r Ystafell Addysg) ar gyfer bwyta brechdanau pan fyddwch yn trefnu'r ymweliad. Gofynnwn i aelod/au o staff yr ysgol aros gyda'r disgyblion yn ystod cyfnod bwyta. Darperir cyfleusterau gwneud paned i'r athrawon hynny. Nid oes tâl am ddefnyddio'r ystafell.
  • Os ydych yn ymweld gyda grŵp bychan o ddisgyblion hyn, y mae bwyty Pen Dinas yn cynnig cyfleusterau cysurus i gael paned neu bryd ysgafn rhwng 10.00 y.b. a 5.00 y.h.

Cymorth Cyntaf

  • Os digwydd anaf neu salwch i aelod o'r grwp tra ar ymweliad, rhowch wybod yn syth i'ch tywysydd. Gelwir aelod o staff y Llyfrgell sydd â sgiliau cymorth cyntaf.
  • A wnewch chi sicrhau fod gennych nifer digonol o staff ysgol ar yr ymweliad fel bod un yn gallu aros gyda'r claf tra bo'r gweddill yn parhau â'u hymweliad yng ngofal aelod arall o staff yr ysgol.
  • Y mae ystafell orffwys ar gael yn gyfleus i'r Ystafell Addysg fel bo preifatrwydd tawel os oes angen hynny.

Argyfwng tân

  • Os digwydd i'r larwm tân ganu yn ystod eich hymweliad, dylid casglu'r grŵp yn drefnus at ei gilydd a dilyn cyfarwyddiadau'r tywysydd neu'r porthor.

Anabledd

  • Os oes aelod o'ch grŵp yn cael anhawster i ymdopi â grisiau, neu i gerdded, yna soniwch am hyn wrth drefnu'r ymweliad fel y gellir sicrhau fod cymorth ar gael. Y mae lifftiau hwylus yn yr adeilad, ac mae'r fynedfa newydd yn addas i gadeiriau olwyn.
  • Darperir dolen glywed yn Ystafell Peniarth ar gyfer rhai sy'n cael trafferthion clywed.

Disgyblaeth

  • Gan fod y Llyfrgell yn adeilad cyhoeddus, gall fod aelodau'r cyhoedd yn ymweld neu'n gweithio yma. Gofynnwn felly i chi ragrybuddio'ch grŵp am yr angen i ymddwyn yn gyfrifol a rhesymol tra byddant yma, gan ddangos ystyriaeth at ddefnyddwyr eraill yr adeilad.
  • Y mae tywysyddion neu aelodau o staff addysg y Llyfrgell yno i gyflwyno ac i helpu ond nid, mewn gwirionedd, i gadw trefn. Cyfrifoldeb yr athrawon sydd yng ngofal y grŵp yw disgyblaeth ac fe fyddem yn gwerthfawrogi'ch cydweithrediad chi yn hyn o beth.
  • Gofynnwn i chi lynu at gymhareb athro:disgybl y sector addysg ar gyfer ymweliadau, cyhyd ag y bo modd.
  • Oherwydd natur gwerthfawr y deunydd sydd yma, mae gan y porthorion yr hawl i sicrhau fod unrhyw unigolyn sy'n cam-ymddwyn yn wael yn gadael yr adeilad yn syth.
  • Os ydych wedi dod i weld arddangosfa gelfyddydol, byddem yn gwerthfawrogi pe gallech bwysleisio i'ch grŵp ei bod hi'n bwysig cadw pellter o'r darluniau a pheidio a'u cyffwrdd, gan eu bod yn waith gwreiddiol.
  • Gofynnir i athrawon gadw llygad yn gyffredinol ar y grŵp yn ystod yr ymweliad, a sicrhau mynediad ac ymadael trefnus - fel na bo plant yn mynd ar goll!

Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Cysylltwch â'r Swyddogion Addysg i drefnu ymweliad:
Owen Llywelyn 01970 632528 / Rhodri Morgan 01970 632913

 

--------------------------------------------------------------------------------------

 

LogoEnglishCymorthempty
Ymweld

Cysylltu bwled
Trefnu Ymweliad Grŵp bwled
Sesiynau Dysgu bwled