Skip navigation links
Chwilio'r wefan am ...
Plant

Llun y mis yma yw 'Autumn Landscape, Meirioneth'
gan Kenneth Rowntree.

Golygfa sydd yma o ardal sir Feirionnydd yng nghanol yr hydref , pan mae'r dail a'r coed yn troi'n lliw rhwd, a'r awyr llwyd wedi colli goleuni llachar yr haf. Defnyddiodd yr artist ddyfrlliw i baentio'r darlun hwn, i gael yr argraff o liwiau'r hydref yn ymdoddi i'w gilydd.

Llun Autumn Landscape gan Kenneth Rowntree

Artist o Denham, Swydd Buckinghamshire oedd Kenneth Rowntree. Cafodd ei eni ym 1915, ac roedd yn arbennig o hoff o baentio tirluniau, gan geisio dal awyrgylch lliwiau'r tir a'r awyr ar bob adeg o'r flwyddyn.

Edrychwch yn ofalus ar y darlun. Pa fanylion bach gallwch chi eu gweld sy'n rhoi'r argraff o naws yr hydref?

Y Gystadleuaeth

Ysgrifennwch haiku sy'n creu naws y darlun hwn.
Gallwch ysgrifennu mwy nag un os hoffech chi.
Wedi anghofio beth yw haiku?! Cliciwch i atgoffa eich hunan.

E-bostiwch eich ymgais at dysgle@llgc.org.uk

 

--------------------------------------------------------------------------------------

LogoEnglishCymorthempty
Plant

Posau bwled
Cystadleuaeth bwled
Wal Arddangos bwled

Cystadleuaeth