Cyflwyniad i ymwelwyr newydd yw'r adran hon, a chyfle i gael argraff o fyd y Llyfrgell a sut mae ei defnyddio.

Lle ar gyfer darganfod yw llyfrgell. Gallwch ymchwilio yno am ffeithiau a ffuglen. Gallwch gadarnhau eich gwybodaeth, neu ddod o hyd i syniadau newydd. Beth sydd ei angen arnoch chi i ddefnyddio llyfrgell yn dda?
- Sgil ditectif i ddilyn trywyddau!
- Awydd i fod braidd yn fusneslyd! Mae angen holi digon o gwestiynau i chi'ch hunan er mwyn cael y darlun cyfan.
- Amynedd crefftwr i osod at ei gilydd holl ddarnau eich hymchwil.
Gallwch wneud hyn i gyd gyda help y stôr o wybodaeth sydd ar y silffoedd ac yn y catalogau mewn llyfrgell - rhai pethau cyffredin, rhai'n annisgwyl, rhai'n hen, eraill yn gyfoes.
Mae'r Llyfrgell yn llawn trysorau o bob math. Mae yna lyfrau a llawysgrifau prin a hardd; nofelau newydd sbon; mapiau cynnar a ffotograffau brau. Y mae'r casgliad celf yn enfawr. Dysgwch mwy am y math o le yw'r Llyfrgell y tu mewn i'r waliau crand, gyda help ein taith o gwmpas.
Ond yn gyntaf - rhai ffeithiau a ffigyrau i'ch synnu ![]()
--------------------------------------------------------------------------------------
Croeso | Y Llyfrgell ei hun | Cysylltu | Ymchwilio | Adnoddau | Beth sy' 'mlaen? | Sylwadau | Plant | Cymorth



