Pa fath o le yw e?
Mae'r Llyfrgell yn adeilad urddasol sy'n edrych lawr tros dref Aberystwyth a Bae Ceredigion yng nghanolbarth Cymru.

Dyma'r olygfa o do y Llyfrgell. Daliwch y llygoden ar y llun, a llusgwch y llygoden o gwmpas er mwyn gweld golygfa gron. Mae'r olygfa o'r adeilad yn arbennig o hardd. Dyma'r Llyfrgell sydd â'r olygfa orau o holl lyfrgelloedd cenedlaethol Ewrop - meddai rhai.
Cychwynwyd ar y gwaith o adeiladu Llyfrgell ym 1911, ar ôl cystadleuaeth rhwng chwech o benseiri. Roedd rhaid iddyn nhw gynllunio adeilad fyddai'n addas ar gyfer lle o bwysigrwydd cenedlaethol.
Hefyd, roedd angen iddyn nhw feddwl am ffactorau eraill, fel y safle agored ar ben bryn, yn wynebu'r môr a'r tywydd garw. Dyna un rheswm pam fod cynllun buddugol Sidney Greenslade yn gynllun cryf a solet yr olwg. Nid oes addurniadau ffansi ar yr adeilad i erydu yn y gwynt a'r glaw.
Wrth i'r Llyfrgell dyfu'n llawnach a llawnach o ddeunydd, bu'n rhaid i'r adeilad dyfu hefyd. Gallwch weld y bensaerniaeth wahanol ar hyd ochor yr adeilad. Y prosiect mwyaf diweddar yw adeiladu awditoriwm crwn - mewn cwrt y tu mewn i'r adeilad. Roedd yn rhaid codi'r holl ddeunyddiau ar gyfer yr adeiladu - hyd yn oed y JCB dros y to!

![]()

![]()

![]()
Erbyn hyn mae'r adeilad cyfan yn adrodd hanes bron i ganrif o dyfiant, o arddull yr hen ddyddiau i'r diweddaraf ym myd adeiladu.
Lawr llwybr bach sy'n arwain o'r Llyfrgell mae yna ogof yn ochr y bryn. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudwyd rhai o drysorau celfyddyd mwyaf gwerthfawr Prydain i'r ogof hon, o Lundain, er mwyn eu cadw'n ddiogel rhag y bomio. (Erbyn hyn, mae'r ogof wedi ei chau.)
--------------------------------------------------------------------------------------
Croeso | Y Llyfrgell ei hun | Cysylltu | Ymchwilio | Adnoddau | Beth sy' 'mlaen? | Sylwadau | Plant | Cymorth
Ystafelloedd Darllen







