Yn yr adran hon fe gewch wybodaeth ar sut i ddanfon eich ymholiadau i'r Llyfrgell, a sut i brynu atgynhyrchiadau o ddefnyddiau'r Llyfrgell.
Mae'r Llyfrgell yn derbyn miloedd o ymholiadau bob blwyddyn, ac mae'r mwyafrif ohonynt yn cael eu derbyn gan staff Gwasanaethau i Ddarllenwyr. Er mwyn sicrhau bod eich ymholiad yn cyrraedd yr aelod o staff mwyaf perthnasol, darllenwch Ymholiadau Allanol. Mae'n esbonio sut mae'r Llyfrgell yn delio gydag ymholiadau ysgrifenedig, ac yn cynnig cysylltiad uniongyrchol at y ffurflen ymholiadau ar y brif wefan.
Ambell waith mae pobl angen copi o ddeunydd penodol sy'n cael ei gadw yn y casgliad - a does dim angen ymchwilio. Mae adran Archebu copïau yn cyflwyno canllawiau ar beth yn y casgliad gall gael ei gopïo, ac sut fyddech yn mynd ati i brynu atgynhyrchiadau o'r deunyddiau.Yn Hanes Teulu ceir awgrymiadau am y math o ffynonhellau sy'n bodoli yn y Llyfrgell ar gyfer bobl sydd yn hel achau.
--------------------------------------------------------------------------------------
Croeso | Y Llyfrgell ei hun | Cysylltu | Ymchwilio | Adnoddau | Beth sy' 'mlaen? | Sylwadau | Plant | Cymorth
