Gall y Llyfrgell gefnogi'ch ymchwil chi mewn tair ffordd:
- pan fyddwch o fewn y Llyfrgell ei hunan yn gweithio
- pan fyddwch am gysylltu o bell i gael help aelod o staff
- pan fyddwch yn ymchwilio arlein
Er mwyn gallu defnyddio'r Ystafelloedd Darllen a gofyn am weld deunydd, rhaid i chi fod yn 16 oed a rhaid bod tocyn darllenydd gyda chi.
Mae Sut i ymchwilio yn esbonio sut mae gwneud hyn ac yn disgrifio sut i fynd ymlaen i ddefnyddio'r catalogau - yn y Llyfrgell neu o bell.
Darllenwch am y Gwasanaethau sy'n cael eu cynnig er mwyn eich helpu gyda'ch hymchwil.
Os ydych yn ymchwilio arlein, gall yr amrywiaeth o ddeunydd ysgrifenedig a gweledol sydd wedi ei ddigido yn Trysorau'r Llyfrgell fod yn ddiddorol a defnyddiol.
--------------------------------------------------------------------------------------
Croeso | Y Llyfrgell ei hun | Cysylltu | Ymchwilio | Adnoddau | Beth sy' 'mlaen? | Sylwadau | Plant | Cymorth


