Trysorau'r Llyfrgell
Ar brif wefan y Llyfrgell gallwch weld rhai o eitemau diddorol a phwysig y Llyfrgell wedi eu digido.
O dan y pennawd Y Drych Digidol, mae tair adran wahanol:
Defnyddiwyd rhai o'r eitemau hyn yn Adnoddau wedi eu darparu fel pecynnau gwaith gyda thasgau parod.
Arddangosfeydd Arlein
Yma gallwch weld delweddau o rai o'r arddangosfeydd a gynhaliwyd yn y Llyfrgell dros y blynyddoedd diweddar. Mae gair o gyflwyniad i bob un, ynghyd â pheth dehongliad neu gefndir pellach mewn ambell un o'r arddangosfeydd.
Ymgyrchu!
Pecyn cynhwysfawr yn adlewyrchu canrif o ymgyrchu gwleidyddol
a chymdeithasol yng Nghymru. Addas ar gyfer CA3/4 a 5.
Trysorau
Croesdoriad o ddeunydd o gasgliadau'r Llyfrgell - o'r fersiwn wreiddiol o'r anthem genedlaethol i lawysgrif Chaucer, o lyfr lluniadu i hunangofiant smyglwr. Daw pob eitem â chyflwyniad cynhwysfawr sy'n rhoi'r cefndir hanesyddol i chi. Dyma ffordd uniongyrchol o ganiatau i fyfyrwyr weld ffynhonellau gwreiddiol,
ac i ddarparu deunydd ymchwil ar eu cyfer.
Croeso | Y Llyfrgell ei hun | Cysylltu | Ymchwilio | Adnoddau | Beth sy' 'mlaen? | Sylwadau | Plant | Cymorth
